Mae’r arwerthiant hwn yn cael ei gynnal er mwyn gwobrwyo’r oedolion ifanc mewn un o glybiau ieuenctid Clwb 707. Mae Clwb 707 yn fwy na chlwb ieuenctid yn unig i’r bobl ifanc hyn. Maent hefyd yn helpu gyda phethau eraill megis cefnogaeth addysgol. I rai, mae’r clwb ieuenctid yn fwy na dim ond cymdeithasu. Mae’n gyfle i weld ffrindiau a derbyn cefnogaeth gan eraill, pan fo’r angen fwyaf. Mae Clwb 707 yn gwobrwyo’r bobl ifanc hyn drwy fynd â nhw ar dripiau i leoliadau amrywiol fel eu bod yn gallu mwynhau’r foment a golchi eu holl bryderon i ffwrdd. Mae ein clwb ieuenctid yn fwy na chlwb ieuenctid yn unig – mae’n deulu.
Mae Clwb 707 hefyd yn helpu pobl ifanc ar eu taith tuag at Dduw, gan mai ef yw’r rheswm pam fod hyn oll yn bosibl. Ef yw’r rheswm ein bod i gyd wedi ymgynnull yno bob dydd Gwener, ac rydym yn ei ddiolch am hynny. Ni fyddai hyn chwaith yn bosibl heb un o’n harweinwyr yn arbennig, sef John, a ddefnyddiodd ei sgiliau saerwaith rhyfeddol i greu campweithiau bendigedig. Gwnaed yr eitemau hyn ganddo er mwyn eu gwerthu neu’u harwerthu i helpu gwobrwyo’r bobl ifanc anhygoel hyn, fel y gellir eu defnyddio i helpu eraill mewn angen sy’n mynychu’r clwb ieuenctid.
Gobeithiwn y bydd pwy bynnag sy’n derbyn yr eitemau hyn yn eu mwynhau ac yn cofio nad yn unig y maent wedi cael model unigryw, hynod fanwl, ond eu bod hefyd wedi helpu pobl ifanc mewn angen!